Beth fu'r heriau allweddol o ran darparu cynnwys a gweithgareddau digidol ar-lein, a beth fu'ch profiadau gyda chysylltedd yn ystod y pandemig, fel cysylltiad band eang gwael ac arafwch? Sut mae hyn wedi effeithio ar eich gallu i gyflawni eich gweithgareddau?

 

Yn ffodus iawn, ychydig o broblemau cysylltiad band eang gafodd y tîm craidd yn ystod cyfnod AmGen, er bod gennym ni staff mewn ardaloedd trefol a gwledig ar hyd a lled Cymru.  Felly, ni chafodd hyn effaith fawr ar ein gallu i weithredu’n gyffredinol o ddydd i ddydd. 

 

Roedd adegau pan oedd pobl yn cael trafferth i gysylltu â’n systemau a gweithredu (rydym yn gweithredu o fewn cwmwl er mwyn gallu rhannu gwybodaeth a ffeiliau), ond roedd y rhain yn gyfnodau eithaf byr fel rheol.  Ond, bu’n rhaid i un aelod o staff fynd i’r swyddfa o dro i dro oherwydd nad oedd y cysylltiad gartref yn ddibynadwy ar y pryd gan fod nifer o’r teulu’n gweithio gartref ac ar-lein yr un pryd.

 

Wedi dweud hynny, roedd y cysylltiad yn gallu bod yn araf iawn i’r rheini’n delio gyda ffeiliau enfawr ac roedd rhaid i un o’n golygyddion ym Mhen Llŷn yrru i Gaernarfon (taith gylchol o tua 60 milltir) i rannu ffeiliau, gan nad oedd modd iddo gael cysylltiad digon cadarn a chryf yn ei gartref. 

 

Yn ogystal, cawsom broblemau mawr wrth geisio cael mynediad i ffeiliau archif gan LLGC gan eu bod yn enfawr ac nid oedd y cysylltiad ym Mhen Llŷn na Chaernarfon yn ddigon dibynadwy / cyflym i allu delio gyda ffeiliau o’r meintiau hyn.  Roedd hyn yn dal amserlen dynn a llawn yn ôl, ac roedd rhaid i’r tîm technegol weithiau oriau hir ac anghymdeithasol yn rheolaidd er mwyn delio gydag ôl-groniad y gwaith.

 

Ond cafwyd nifer o broblemau cysylltu gydag amryw o’n cyfranwyr, ac fe ddaeth yn amlwg nad oedd yn ddoeth i ni fod yn cynnal gormod o sesiynau byw, felly, roedd y rhan fwyaf o’r sesiynau’n cael eu recordio ychydig oriau ymlaen llaw er mwyn delio gydag unrhyw broblemau cysylltiad band eang, ac yna’n cael eu cyflwyno ‘fel yn fyw’.  Felly, drwy gynllunio gofalus, dyfalbarhad a chydweithrediad cyfranwyr a staff, llwyddwyd i dynnu popeth ynghyd o ran darparu cynnwys.

 

 

A oes gennych unrhyw dystiolaeth / enghreifftiau o'ch aelodau / rhanddeiliaid yn cael problemau o ran cael mynediad i’ch cynnwys a'ch gweithgareddau digidol? Sut mae hyn wedi effeithio arnynt a'u gallu i ryngweithio?

 

Roeddem yn poeni y byddai rhai rhanddeiliaid, cefnogwyr ac ‘ymwelwyr’ yn cael trafferth i gael mynediad i’n cynnwys.  Felly datblygwyd perthynas gyda chwmni Tinopolis a rhaglenni Heno a Prynhawn Da, er mwyn sicrhau bod peth o gynnyrch AmGen i’w weld ar gyfryngau ‘traddodiadol’ yn ystod y cyfnod. 

 

Hefyd, roedd y berthynas sydd gennym gyda Radio Cymru ac S4C yn gyfle i bobl weld a chlywed peth cynnwys ‘eisteddfodol’, yn arbennig yn ystod wythnos gyntaf Awst.  Fe fyddem ni wedi mwynhau gweld rhagor o gynnwys AmGen yn cael ei ddarlledu drwy’r cyfryngau ‘traddodiadol’ ond dim ond sianeli digidol, e.e. YouTube a chyfryngau cymdeithasol oedd ar gael i ni. 

 

Felly, roedd amryw o’n cefnogwyr yn siomedig nad oedd modd iddyn nhw wylio mwy o’r arlwy, a dyma oedd y gŵyn fwyaf a gafwyd yn ystod cyfnod y prosiect.  Ond roeddem yn falch iawn o weld cynifer o’n cynulleidfa graidd yn troi at declynnau a rhaglenni digidol er mwyn dilyn rhaglenni AmGen.  Rydym yn gwybod am nifer o bobl a lawr lwythodd y rhaglen Zoom er mwyn bod yn rhan o sesiynau cynnar y prosiect, yn arbennig aelodau Côr yr Eisteddfod yn ardal Ceredigion.

 

Roeddem hefyd yn ymwybodol bod rhaid i ni ddefnyddio mwy nag un platfform er mwyn rhannu cynnwys, ac roeddem yn poeni y byddai hyn yn cymhlethu pethau.  Er ein bod wedi cael ambell un yn cael trafferth i gael hyd i sesiynau, yn enwedig rhai ‘byw’, roedd popeth yn ymddangos ar sianel YouTube yr Eisteddfod, ar ein gwefan, ac am AM erbyn diwedd bob dydd, felly roeddem yn arwain pobl at y sianeli yma. 

 

Cynhyrchwyd fideo byr er mwyn cyflwyno’r gwahanol blatfformau i’n defnyddwyr, a bu staff yn cynghori nifer o bobl ar sut i wylio.  Roeddem yn annog ein cynulleidfa hŷn a’r rheini gyda setiau teledu clyfar i wylio cynnwys drwy’r teledu ar YouTube, ac roeddem yn falch o weld nifer fawr o danysgrifwyr newydd dros 65 oed yn ymuno â’r sianel yn ystod ‘wythnos yr Eisteddfod’ fis Awst.

 

Roeddem yn ymwybodol bod rhai gwylwyr yn cael trafferth i gysylltu a gwylio, ac o’r herwydd, mae ein holl gynnwys yn parhau ar gael ar YouTube, ein gwefan ac ar AM ar hyn o bryd.

 

 

A allwch chi roi sylwadau ar yr effaith y bydd diffyg mynediad at wasanaethau rhyngrwyd dibynadwy a diogel yn ei chael ar eich gallu i ddarparu gweithgareddau a chynnwys digidol yn y dyfodol, neu feintioli hyn?

 

Mae AmGen wedi newid y tirlun digidol o safbwynt yr Eisteddfod.  Dros nos, bu’n rhaid i ni newid o fod yn sefydliad wyneb yn wyneb i fod yn gorff a oedd yn gweithredu’n gyfan gwbl dros y we a thrwy dechnoleg.  Ychydig wythnosau ar ôl i lansio AmGen, roedd yr ymateb yn glir, fod rhaid i ni gynnig rhagor o wasanaethau digidol yn y dyfodol. 

 

Mae tlodi digidol yn dal i fodoli yng Nghymru.  Nid pawb sydd â mynediad i fand eang derbyniol, ac nid pawb sydd â theclynnau lle mae modd gwylio rhaglenni ar-lein.  Mae’r broblem o dlodi digidol yn ein poeni, gan fod cysylltiad gwael â’r we neu fand eang cryf yn aml yn digwydd mewn ardaloedd gwledig, ac yn draddodiadol, mae trigolion yn gefnogwyr naturiol a brwd o’r Eisteddfod.

 

Gan fod AmGen yn ddibynnol ar y gallu i gael mynediad i sesiynau ar-lein, rydym yn ymwybodol iawn bod unrhyw ddatblygiadau digidol yn mynd i greu gwasanaeth nad yw ar gael ar bawb, a thrwy hynny, fynd yn erbyn ethos yr Eisteddfod o fod yn ŵyl i bawb.  Ond, bydd rhaid i ni fwrw ymlaen gyda chynlluniau i edrych ar ein darpariaeth ddigidol er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu cynulleidfaoedd newydd ac yn diwallu’r angen am gynnyrch Cymraeg o safon ar-lein.  Ond, mae’n ein poeni os nad oes modd i bobl mewn cymunedau gwledig gael mynediad i beth o’n cynnyrch.

 

A fydd yr argyfwng hwn yn newid eich gweithgareddau craidd yn y dyfodol (e.e. mwy o fuddsoddiad mewn technoleg ddigidol a mathau eraill o weithgareddau lle mae modd cadw pellter cymdeithasol).

 

Gŵyl wyneb yn wyneb fydd yr Eisteddfod am byth.  Mae’r elfen o ddod ynghyd, dathlu ein diwylliant gyda’n gilydd a chymdeithasu mor bwysig i ni fel Cymry, ac mae pawb wedi gweld eisiau hyn eleni ac yn taer obeithio y daw cyfle i ddod at ein gilydd ar Faes yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

 

Ond, mae nifer fawr hefyd wedi sôn am y pleser o wylio sesiynau gartref, o beidio gorfod poeni os oes dwy sesiwn yn rhedeg yr un pryd.  Un o gwynion mawr ein cynulleidfa bob blwyddyn yw’r ffaith bod sesiynau diddorol yn cael eu cynnal yr un pryd a bod rhaid dewis y naill neu’r llall.  Newidiodd AmGen hynny.  Roedd modd gwylio popeth yn ei dro, a’r ffaith fod y sesiynau yn parhau ar gael yn gyfle i bobl barhau i ddarganfod cynnwys sy’n eu diddori.  Ac mae pobl eisiau rhagor o hyn.

 

Llwyddwyd i ddenu cynulleidfaoedd rhyngwladol i AmGen ac mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i ddarparu cynnwys a datblygu cyfleoedd i gynulleidfaoedd ar draws y byd y gyfranogi yn yr Eisteddfod.

 

Dros y blynyddoedd, mae’r darlledwyr wedi canolbwyntio ar y cystadlu yn y Pafiliwn, a heb roi sylw teg i’r sesiynau sy’n cael eu cynnal o amgylch y Maes, ac mae unrhyw sylw a roddir yn bytiog ac yn fyr.  Newidiodd AmGen hyn gan roi sylw cydradd i bob un o’r ‘pafiliynau’, gyda rhaglen lawn ym mhob un drwy’r wythnos.  Mae galw mawr arnom i barhau i gynnig blas tebyg yn y dyfodol, felly rydym yn ystyried sut y gallwn wneud hyn.  Yn bendant, byddai costau ychwanegol i’r Eisteddfod ar ben trefnu a chynnal yr ŵyl ei hun, gan fyddai’n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni dîm o arbenigwyr technegol a golygyddion yn gweithio gyda ni.  Byddai’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod gennym ni’r gallu i recordio a ffilmio sesiynau mewn gwahanol ganolfannau o amgylch y Maes yn ystod yr wythnos.

 

Mae’r argyfwng wedi creu cyfnod anodd a phryderus i’r Eisteddfod, ac mae’r ail don wedi ychwanegu at y pryder hwn.  Gyda’r sefyllfa’n newid bron yn ddyddiol, mae’n anodd blaengynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf ac edrych i’r dyfodol, wrth ystyried anghenion gŵyl wyneb yn wyneb.  Rydym mewn cysylltiad parhaus gyda swyddogion yn y Llywodraeth ac yn cydweithio’n agos gyda gwyliau a digwyddiadau mawr eraill er mwyn gweld a oes modd darganfod datrysiad a fydd yn ein galluogi ni i symud ymlaen gyda gŵyl Eisteddfod 2021.

 

Mae ein gwaith cymunedol hefyd ar stop gan nad oes modd i ni fynd i’r cymunedau a chynnull pobl ar lawr gwlad.  Rydym yn poeni bod hyn yn cael effaith andwyol ar ein prosiectau ac ein bod ni am golli momentwm, yn arbennig yn ardal Llyn ac Eifionydd.  Roeddem hefyd ar fin lansio ein cynlluniau cymunedol cychwynnol yn Rhondda Cyn Taf pan ddaeth y cyfnod cloi ym mis Mawrth.  Erbyn pan fydd yn ddiogel i ni ail-afael yn y gwaith, byddwn wedi colli’r cyfle i fod yn gweithio yn y gymuned am dros flwyddyn. 

 

Mae ein gwaith cymunedol yn rhan greiddiol o’r hyn rydym yn ei wneud i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 ac rydym yn awyddus iawn i fwrw ymlaen gyda’r gwaith yn y tair ardal o Gymru lle mae’r Eisteddfod yn weithredol ar hyn o bryd, ynghyd â threfnu a chynnal gŵyl genedlaethol os yw’n saff a diogel i ni wneud hynny.

 

 

Pa fesurau neu adnoddau y gallai fod eu hangen gan Lywodraeth Cymru i liniaru unrhyw effaith hirdymor ar y Gymraeg?

Yn ddi-os, mae gwyliau fel yr Eisteddfod angen sicrwydd ariannol ein bod ni’n gallu parhau.  Mae gwyliau fel hyn yn hollbwysig i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050, gan ein bod yn darparu cyfleoedd cymdeithasol ac anffurfiol i bobl ddefnyddio’r iaith, yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg ac yn un o’r llwybrau pwysicaf i ddenu pobl at y Gymraeg, ar lefel gymunedol a chenedlaethol.  Argyfwng dros dro yw hwn i’r gwyliau. Mae’r Eisteddfod yn gorff hyfyw gyda rhagolygon ar gyfer y dyfodol. 

 

A ddylai effaith yr argyfwng newid blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector, yn enwedig mewn perthynas â chynllun Cymraeg 2050?
Mae’n hollbwysig bod y Llywodraeth yn parhau i flaenoriaethu’r tair thema.

 

Rheidrwydd yw sicrhau bod amodau ffafriol yn bodoli i wireddu seilwaith a chyd-destun, y drydedd thema.  Mae’r defnydd o ddigidol a datblygu allbynnau deinamig yn greiddiol i esblygiad diwylliant cyfoes. Profodd AmGen, o greu cynnwys addas, proffesiynol, bod modd datblygu a denu cynulleidfaoedd newydd yn y cyfnod clo.

 

Drwy ein prosiect newydd Dwylo Dros y Môr, rydym wedi dechrau rhaglen ryngwladol sy’n rhoi cyfle i artistiaid o Gymru gydweithio gyda gwyliau ac artistiaid ar draws y byd. Rydym eisoes wedi treialu partneriaeth rhwng yr Eisteddfod ar National Celtic Festival Australia, gydag Angharad Jenkins o Calan a Bush Gothic, Awstralia yn cydweithio i drefnu pedair cân wedi eu hysbrydoli gan alawon gwerin a straeon Cymraeg. Prosiect arall sy’n datblygu yw’r un rhwng y band post-punk, pop a gwerinol, Adwaith mewn partneriaeth a’r Ŵyl Suns Europe. Mae’r dechnoleg ddigidol yn greiddiol i’r datblygiadau yma. Mae prosiectau megis y rhain yn chwarae rhan bwysig yn ein hymdrechion i greu pontydd rhwng Cymru a’r byd.